Skip to main content
padlock icon - secure page this page is secure

Arweinyddiaeth yn y Sector Uwchradd Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog: Yr heriau arbennig sy'n wynebu penaethiaid a darpar- benaethiaid mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog

Buy Article:

$7.00 + tax (Refund Policy)

Mae'r erthygl hon yn cynnig amlinelliad o dwf ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ers agor yr ysgol gyntaf yn 1956. Ochr yn ochr â'r twf hwnnw sefydlwyd cymdeithas broffesiynol i gynnig modd i'r ysgolion gadw mewn cyswllt â'i gilydd. Yn y dyddiau cynnar ei theitl oedd Cymdeithas Prifathrawon Dros Addysg Gymraeg (CPDAG) ond yn ystod y degawdau diweddar esblygodd i fod yn Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg (CYDAG). Dylid nodi mai nid corff undebol yw CYDAG ond, yn hytrach, cymdeithas broffesiynol sy'n cefnogi a hybu buddiannau addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Erbyn hyn, sefydlwyd cangen gynradd o CYDAG hefyd ond o bersbectif CYDAG uwchradd yr ysgrifennwyd yr erthygl hon. Mae'r erthygl yn nodi dwy brif agwedd o'r rôl y chwaraeodd y gymdeithas. Ar un llaw, darparodd y gymdeithas gynhaliaeth broffesiynol i athrawon, rheolwyr canol ac uwch rheolwyr trwy gynnal nifer sylweddol o gyfarfodydd proffesiynol un-dydd. Roedd y rhaglenni yn cynnig sesiynau i athrawon i rannu arfer dda o fethodoleg llawr dosbarth o fewn y pynciau craidd ac all-graidd. Cynigiodd sesiynau eraill themâu oedd yn berthnasol i reolwyr canol ac uwch megis deall a defnyddio data, dulliau hunanarfarnu ac asesu ar gyfer dysgu. Yn ddiweddar trefnwyd bod cynrychiolwyr o nifer fechan o ysgolion CYDAG yn ymweld ag ysgolion a gydnabuwyd i fod yn rhai llwyddiannus iawn gan gynnwys ysgolion yng Nghymru ac yn Lloegr. Yn dilyn yr ymweliadau strwythuredig hyn roedd yr ysgolion yn arwain sesiynau rhannu a thrafod arferion rheolaeth da yng nghynadledd flynyddol CYDAG. Ochr yn ochr â hynny, rôl bwysig arall y chwaraeodd CYDAG oedd ymateb i ddogfennaeth ymgynghorol gan y llywodraeth a chyrff cenedlaethol eraill er mwyn ceisio sicrhau bod buddiannau addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn cael eu cynnwys wrth i bolisïau gael eu datblygu a'u gweithredu yn genedlaethol. Trefnodd y gymdeithas gyfarfodydd rheolaidd gyda gweinidogion addysg, uwch weision sifil, arweinwyr cyrff megis Estyn, CBAC a Cymwysterau Cymru. Prif nod y cyfarfodydd hyn oedd hybu deialog adeiladol gyda'r cyrff hyn er mwyn ehangu dealltwriaeth o sut mae polisïau yn effeithio ar y sector cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Ceisiwyd hefyd gynnig cymorth i'r cyrff i gyfathrebu gydag aelodau CYDAG ac i fynychu cyfarfodydd un- dydd a'r gynhadledd flynyddol er mwyn cyfathrebu'n uniongyrchol â'r aelodau. I'r un perwyl mae rhannau olaf yr erthygl hon yn nodi'r materion sydd yn gwasgu ar dimau rheolaethol ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Mae nifer o'r rhain yn gyffredin i'r gwasgfeydd sydd yn wynebu pob ysgol uwchradd beth bynnag bo cyfrwng yr addysgu ond maent o berthnasedd arbennig yn y sector Cymraeg oherwydd natur arbennig y sector hwnnw.
No Reference information available - sign in for access.
No Citation information available - sign in for access.
No Supplementary Data.
No Article Media
No Metrics

Document Type: Research Article

Publication date: November 1, 2018

More about this publication?
  • Previously published under the title University of Wales Journal of Education, this internationally-distributed annual journal offers an arena for disseminating education research from national and international perspectives. The journal explores a range of controversial arguments relating to education, including areas such as bilingualism, religion in education, well-being and the standards of literacy and numeracy. The contemporary drive for improved education standards, within Wales and internationally, provides a wealth of interdisciplinary research opportunities, and the journal aims to publish research reports relating to these current issues. The journal also includes a comprehensive reviews section.

    Mae'r cylchgrawn blynyddol hwn, a adwaenid gynt fel Cylchgrawn Addysg Prifysgol Cymru, yn trafod agweddau datganoledig ar addysg, ynghyd ag ymdrin ag addysg o safbwynt cenedlaethol a rhyngwladol. Wrth ymhel â materion cyfoes yn ymwneud ag addysg, mae'r drafodaeth yn amlinellu safbwyntiau dadleuol ynghylch dwyieithrwydd a chrefydd yn ogystal â safonau llythrennedd a rhifedd. Mae'r ymdrechion i wella safonau addysg yng Nghymru a thu hwnt yn esgor ar feysydd ymchwil newydd, a bwriad y cyfnodolyn yw cyhoeddi erthyglau cryno yn ymdrin â materion cyfredol o'r fath. Mae'r cyfnodolyn hefyd yn cynnwys adran adolygiadau.

  • Access Key
  • Free content
  • Partial Free content
  • New content
  • Open access content
  • Partial Open access content
  • Subscribed content
  • Partial Subscribed content
  • Free trial content
Cookie Policy
X
Cookie Policy
Ingenta Connect website makes use of cookies so as to keep track of data that you have filled in. I am Happy with this Find out more